Pen-blwydd Hapus i Ti

Y gân wreiddiol: Good-Morning to All
Y gân: Good-Morning to All. 22 eil.
Fersiwn offerynnol o: "Good Morning to All".

Cân draddodiadol a genir i longyfarch a dathlu pen-blwydd person yw Pen-blwydd hapus i ti! Yn ôl y Guinness World Records dyma'r gân Saesneg mwyaf adnabyddus ledled y byd.[1] Cenir y gân mewn nifer o ieithoedd. Honir mai dwy chwaer, dwy athrawes a sgwennodd y gân a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1893 mewn cyfrol o'r enw Song Stories for the Kindergarten, gyda geiriau "Good Morning to All" i groesawu'r disgyblion i'w dosbarth; y ddwy athrawes oedd Patty Hill a Mildred J. Hill. Mae rhai pobl yn mynnu mai'r geiriau'n unig a ysgrifennwyd ganddynt.[2] Prifathrawes mewn kindergarten yn Louisville, Kentucky oedd Patty ar y pryd[3] a phianydd a chyfansoddwraig oedd Mildred.[1] Yn 1912 yr ymddangosodd y geiriau mewn print yn gyntaf, heb unrhyw rybydd o hawlfraint arnyn nhw. Bellach, Warner Brothers bia hawlfraint y gân a chaiff ei defnyddio'n aml i ddangos mor hurt (yng ngolwg rhai) yw deddfau hawlfraint y byd.

  1. 1.0 1.1 Brauneis, Robert (2010). "Copyright and the World's Most Popular Song". GWU Legal Studies Research Paper No. 1111624. SSRN 1111624. http://scholarship.law.gwu.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=1303&context=faculty_publications. , p. 17
  2. Masnick, Mike. "Lawsuit Filed to Prove Happy Birthday Is in The Public Domain; Demands Warner Pay Back Millions of License Fees", Techdirt.com, June 13, 2013
  3. "KET – History: Little Loomhouse". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-02. Cyrchwyd 2015-01-14.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search